Gwerthusiad o Brosiect Gwelliannau Gorsaf 

Llandaf a Radyr - Arolygon Ar-lein

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Carreg Las, gan weithio gyda Loxley Consultancy, i gynnal gwerthusiad o brosiectau gwella gorsafoedd Llandaf a Radyr.


Nod y gwerthusiad hwn yw deall rheolaeth a chyflawniad y prosiect gwella gorsafoedd, asesu perfformiad yn erbyn yr allbynnau a’r amcanion a nodwyd ac archwilio canlyniadau ac effaith ehangach. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn bydd Carreg Las a Loxley Consultancy yn casglu gwybodaeth trwy arolygon ar-lein.


Llywodraeth Cymru yw rheolwr data'r ymchwil. Fodd bynnag, bydd Carreg Las a Loxley Consultancy yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir trwy arolygon, ac yn anhysbysu'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.


Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Carreg Las a Llywodraeth Cymru.

Mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.  Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol a bydd yn aros yn anhysbys / ddi-enw.


Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Carreg Las yw Dr Robert W. Francis:


Cyfeiriad e-bost: info@carreg-las.com


RHYBUDD PREIFATRWYDD


Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?


Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (a adwaenir gan amlaf yn gryno fel 'GDPR' y DU) megis ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.


Cawsoch god QR pan roeddech yng ngorsafoedd trên Llandaf neu Radyr i gynnal arolwg am y gwelliannau yn yr orsaf. Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu unrhyw ddata personol yn yr arolwg ac ni chaiff eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad IP eu dal pan fyddwch chi'n cwblhau'r arolwg ac felly mae eich ymatebion yn anhysbys. Bydd gan Ymgynghoriaeth Carreg Las a Loxley fynediad at eich ymatebion i'r arolwg er mwyn cynnal dadansoddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Os dewiswch ddarparu data personol ar ffurf unrhyw ymatebion testun agored yna byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu'ch hunaniaeth â'r ymatebion.


Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?


Y sylfaen gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Efallai y bydd y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, yn cael ei defnyddio i archwilio sut y cafodd y prosiectau rheilffyrdd eu rheoli a'u cyflawni ac a ddylai Llywodraeth Cymru gefnogi cynlluniau tebyg yn y dyfodol a'r ffyrdd gorau o wneud hyn.


Pa mor ddiogel yw'ch data personol?


Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Carreg Las a Loxley Consultancy bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Bydd unrhyw waith papur sy’n ymwneud â’r gwerthusiad yn cael ei gadw dan glo yn swyddfeydd Carreg Las a Loxley Consultancy. Mae gan Carreg Las a Loxley Consultancy ardystiad 'Cyber Essentials'.


Mae gan Carreg Las a Loxley Consultancy weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dor-rheolaeth diogelwch data. Os amheuir fod rheolau diogelu data wedi eu torri, bydd Carreg Las yn riportio hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Adroddir ar yr holl ddata a gesglir trwy'r ymchwil hon ar ffurf anhysbys. Ni fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth adnabyddadwy a allai fod wedi'i darparu mewn ymatebion testun agored. Bydd Carreg Las a Loxley Consultancy yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.


Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?


Gall Carreg Las a Loxley Consultancy ddal eich data personol yn ystod cyfnod y contract a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu yn ystod dadansoddiad data yn cael ei ddileu gan Carreg Las a Loxley Consultancy dri mis ar ôl diwedd y contract.


Hawliau’r unigolyn


O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r gwerthusiad hwn, mae gennych chi'r hawl:


  • I gyrchu (gael mynediad at) gopi o'ch data eich hun;
  • I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • I’ch data chi gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau); a
  • Chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (yr ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk


Rhagor o wybodaeth


Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Bethan Porter

Cyfeiriad e-bost: bethan.porter@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000 625768

 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost SwyddogDiogeluData@llyw.cymru.